logo
Lleolwyd y bragdy ym mhentref Y Felinfoel gan gymryd enw'r pentref fel enw swyddogol. Pentref bychan ar gyrion Llanelli yw'r Felinfoel. Dywed yr haneswyr wrthym fod y dafarn leol yn bragu ei chwrw ei hun, ond yn ystod misoedd y gaeaf yn unig. Roedd cryfder ac 'oes' y cwrw yn bwysig a chan fod cwrw'r Felinfoel mor boblogaidd dechreuwyd bragu ar gyfer cyflenwi tafarnau eraill. I gyfarfod â'r galw cynyddol yma adeiladwyd bragdy ym 1878 sy'n dal ar ei draed heddiw. .Roedd y sefydlydd David John yn berchen gweithfeydd tunplat a haearn yng nghylch Llanelli, pan brynodd dafarn Y King's Head yn y Felinfoel dros y ffordd i'w gartref yn nghanol yr 1830.

Roedd hon yn bwysicach na thafarn arferol gan ei bod yn dafarn y goits fawr gyda efail y gôf i bedoli'r ceffylau. Yn anffodus y drws nesaf i'r dafarn oedd toll-borth (tyrpeg) a oedd yn culhau y ffordd ac yn rhwystro trafnidiaeth.

Yn niwedd yr 18G, 1830 roedd y toll borth fel cadach coch i darw, gan fod dilynwyr Beca yn rhuthro o gwmpas Sir Gaerfyrddin yn terfysgu. Roeddent yn gwrthwynebu'r doll ar wageni ac anifeiliad gan ymosod a malurio'r giatiau. Oherwydd y teimlad cryfion yn erbyn yr awdurdodau penderfynodd David John newid enw'r dafarn gan ddileu pen y brenin - 'King's Head' a'i galw Yr Undeb, the 'Union Inn'.

Roedd yr Union yn bragu ei chwrw
ei hun a ddaeth yn boblogaidd iawn. Gwerthwyd cynnyrch y Felinfoel i dafarnau eraill, ac ar ôl cynnydd yn y galw adeiladwyd bragdy mawr newydd yn 1878 gyferbyn â'i gartref 'Pantglas'. Codwyd yr adeilad mawreddog o gerrig ynghanol ei berllan ac ar fin y ffordd fawr.

Daeth y bragdy yn ganolbwynt y gymdeithas gan gyflogi tua hanner cant o bobl. Dywedodd pentrefwr yn ddiweddarach; 'Mi roedd bron pob teulu â chwt mochyn yng ngwaelod eu gardd ac ar y diwrnod y cyflogwyd bwtsiar i ladd y mochyn rhaid oedd cludo caniau o ddwr berwedig o'r bragdy i lanhau a chrafu'r mochyn. Roedd rhai o bobl y yr ardal yn mofyn dwr poeth i wneud eu golchiad wythnosol, ac eraill yn mynd i'r bragdy i fenthyg ystol neu hogi arfau yn cael eu esgus i fynd i mewn am beint'.

Deuai ffermwyr y cylch i mewn ar ddiwrnod bragu er mwyn cael y stwnsh soeglyd i'w gasglu i borthu eu anifeiliad. Roedd y iard a'r heolydd y tu allan yn llawn troliau'r ffermwyr yn aros eu tro am y soeg. Gelwyd y heol gul byth wedyn yn 'Heol y Ffermwyr'..


Next....