logo

Codwyd Bradgy'r Felinfoel o bopty'r Afon Lliedi a'r afon hyd heddiw yn dal i lifo drwy'r lle. Bedyddwyd cannoedd o bobl yn nwr yr un afon gan Y Parch. Benjamin Humphreys yn nghyfnod berw Diwygiad 04-05.

Yr oedd cysylltiadau clos rhwng ail grefydd pentref y Felinfoel â'r bragdy - sef rygbi. Chwaraewyd ambell i gem bwysig ar gae'r Rec, a chaed trafodaeth frwd wedyn ym mhencadlys y Clwb ar y pryd, sef y tafarn yr Union .

Yr oedd lleoliad yr hen dafarn yma yn creu tagfeydd drwy'r pentref a phenderfynwyd ei chwalu yn 1962 er mwyn lledu'r heol. Dywedwyd fod y dafarn mor agos i'r bragdy tros y ffordd fod yn rhaid cau'r heol pe bai'r seiri yn ngweithdy'r saer am lifio ystyllenod (planciau).

Cofrestrwyd y bragdy fel cwmni preifat yn 1906 gan farchnata dwr y ffynnon dan enw 'Trebuan Spring' yn ogystal a bragu cwrw. Daeth y dwr yma yn syth mewn peipen o ffynnon uwchben y pentref.

Roedd y teulu yn gyfranogion mewn cwmniau mwyngloddio ac yn 1908 bu bron i'r diddordeb yma danselio sylfeini'r bragdy. Wrth gloddio ffynnon y bragdy er ceisio cyflenwad arall o ddwr, tarawodd y dynion ar weithien ddwy drodfedd o lô rhyw ddeuddeg llath o'r wyneb. Ar ôl hir bendroni penderfynodd teulu John i beidio a dilyn y wythien lô rhag peryglu adeiladau'r bragdy.